Cynyddu maint testun

Golwg360



Lladron ‘smash and grab’ yn taro gemydd y Frenhines

Mawrth 9, 2010 14:40

Mae giang o ladron ar gefn beiciau modur wedi dwyn o siop Mappin & Webb yn Llundain – y cwmni sy’n gwerthu darparu nwyddau arian i’r Frenhines a Thywysog Cymru.

Mae tystion wedi adrodd wrth yr heddlu sut y daeth y giang at y siop tua 11 y bore yma gydag arfau mawr, trwm, a malu’r ffenestri cyn cipio’r nwyddau oedd yn cael eu harddangos yno, cyn dianc wedyn.

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn archwilio’r fan heddiw, ac fe gaewyd rhan helaeth o Old Bond Street, ardal sy’n enwog am ei siopau gemwaith.

Eto, eto ac eto fyth

Nid dyma’r tro cynta’ i siop Mappin & Webb gael ei thargedu gan ladron – fe fu ymosodiad tebyg ar yr un siop y llynedd.

Fe gafodd siop y cwmni yn Regent Street ei thargedu dair gwaith yn ystod 2008. Yn un o’r troeon hynny, fe gafodd car Vauxhall Vectra ei yrru drwy ddrysau ffrynt a gatiau diogelwch y siop.

Yn 2006, fe gafodd dau fachgen yn eu harddegau eu carcharu ar ôl dwyn gwerth £26,000 o nwyddau o siop y cwmni yn Fenchurch Street.

Yr heddlu

“Mae swyddogion CID Westminster yn ymchwilio i’r digwyddiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain.

“Dydyn ni ddim wedi clywed fod neb wedi eu hanafu, does yna neb wedi ei arestio eto, ac rydyn ni’n parhau â’n ymholiadau.”