Mae saith o Fwslimiaid wedi eu harestio yn Iwerddon, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladd yr artist o Sweden a greodd gartwnau o’r proffwyd Mohammed.
Mae tri dyn a phedair gwraig wedi eu dal, yn dilyn ymchwiliad gan nifer o heddluoedd yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, ynghyd â’r CIA a’r FBI.
Roedd y mudiad terfysgol Al Qaida wedi gosod pris o $100,000 ar ben Lars Vilks, wedi i bapur newydd gyhoeddi ei waith. Er hynny, dyw’r saith unigolyn sydd wedi eu harestio heddiw ddim yn aelodau o Al-Qaida.
Heddluoedd yn gweithio ar y cyd
Fe gafodd y saith eu harestio tua 10 o’r gloch fore heddiw, wrth i heddweision Garda Iwerddon gynnal nifer o gyrchoedd ar dai.
“Trwy gydol yr ymchwiliad yma, rydan ni wedi bod yn cydweithio gydag asiantaethau yn yr Unol Daleithiau a heddluoedd ar draws Ewrop,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Iwerddon.