Mae offeiriad Pabyddol wedi amddiffyn sylwadau ar ei flog, lle mae’n estyn cydymdeimlad i Jon Venables.
Mae’r Tad Ray Blake yn dweud ei fod yn teimlo “trueni mawr” dros y dyn 27 oed sy’n enwog ar draws y byd fel un o lofruddwyr y bachgen bach dwyflwydd oed, James Bulger, yn 1993. Roedd e’n ddeg oed ar y pryd.
Yn ei ddarn ‘Feeling Sorry for Jon Venables’, mae’r offeiriad yn dweud ei bod hi’n “ofnadwy” gorfod deffro bob bore a gwybod fod pawb yn eich casau.
“Rydym yr hyn ydym”
“Rwy’n teimlo trueni mawr dros Venables, yn ogystal â thros Jamie Bulger a’i fam,” meddai’r Tad Blake o Brighton.
“Rydym yr hyn ydym. Mae’n rhaid ei bod hi’n ofnadwy deffro bob bore a gweld yn y drych lofrudd plentyn y mae pawb yn ei gasau. Mae e hefyd yn cario holl baggage y plentyndod a arweiniodd at y llofruddiaeth, a phopeth a ddaeth yn sgîl ei gael yn euog.”
“Rydyn ni’n gynnyrch yr hyn y mae ein rhieni, ein plentyndod a’u profiadau wedi ein gwneud ni. Does dim modd eu gwahanu nhw oddi wrth ei gilydd.
“Fe allwn ni ddianc rhagddyn nhw trwy yfed a defnyddio cyffuriau neu fyw gwyllt o un math neu’i gilydd. Fe allwn ni gymryd arnon ein bod ni’n rhywun arall, ein bod ni’n well na phechaduriaid eraill…”
Duw sy’n gallu ein rhyddhau
Does dim byd a all neb ein wneud i newid ei sefyllfa, heb iddo yn gyntaf gydnabod Duw, yn ôl y Tad Ray Blake.
“Ar ein pennau ein hunain, allwn ni wneud dim,” meddai. “Rydyn ni’n wan ac aneffeithiol.
“Dim ond pan ydyn ni’n sylweddoli hynny ac yn derbyn hynny, y gallwn ni ddechrau deall mai dim ond Duw all ein rhyddhau.”