Cynyddu maint testun

Golwg360



Darganfod corff cyn-arlywydd Ciprys

Mawrth 9, 2010 16:15

Mae’r heddlu yng Nghiprys wedi cadarnhau fod corff un o gyn-arlywyddion yr ynys, a gafodd ei ddwyn o’i fedd flwyddyn ddiwetha’, bellach wedi cael ei ddarganfod.

Yn ôl adroddiadau, roedd y cipwyr wedi mynnu pridwerth am gorff Tassos Papadopoulos, ond mae ei deulu wedi gwadu hynny. Roedd rhywun wedi gadael i’r heddlu wybod lle’r oedd y corff.

Mynwent

Cafodd y corff ei ddarganfod mewn bedd arall mewn mynwent yn y brifddinas, Nicosia, yn hwyr nos Lun, a chadarnhawyd mai Tassos Papadopoulos oedd o, yn dilyn profion DNA.

Mae’r heddlu wedi gwrthod ymhelaethu ynglŷn â chyflwr y corff.

Pridwerth?

Does dim sicrwydd ynglŷn â pham y cipiwyd y corff, ond mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Ciprys, Loucas Louca, yn dweud fod y cipwyr wedi gofyn am dal.

Mae teulu Tassos Papadopoulos, ar y llaw arall, yn mynnu nad oes neb wedi gofyn am arian.

Cipio

Cafodd corff Tassos Papadopoulos ei ddwyn o fynwent yn Nicosia ar 11 Rhagfyr, 2009, bron flwyddyn yn union i’r diwrnod y bu farw.

Roedd yn arlywydd ynys Ciprys o 2003 i 2008.