Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd y tîm rhyngwladol yn chwarae gêm gyfeillgar oddi cartref yn erbyn Croatia ym mis Mai.
Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ar 23 Mai, ond dyw’r trefnwyr ddim wedi cadarnhau eto yn lle’n union yn Croatia y byddan nhw’n chwarae.
Unwaith yn unig mae Cymru wedi chwarae yn erbyn tîm Slaven Bilic cyn hyn – a’r gêm honno’n gorffen 1-1, gyda Simon Davies yn sgorio dros Gymru.
Dim gobaith am gêm yn Llydaw
Mae’r cynlluniau i Gymru chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn tim o Lydaw wedi dod i ben, heb gytundeb.
Roedd tîm John Toshack wedi gobeithio chwarae yn Nantes ar 19 Mai fel rhan o’u paratoadau ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2012.
Fe fydd Cymru’n chwarae gêm gyfeillgar arall ym mis Awst, cyn i’r rowndiau rhagbrofol ddechrau ym mis Medi.
Llun: John Toshack, rheolwr Cymru