Cynyddu maint testun

Golwg360



Na i reithgorau dwyieithog

Mawrth 9, 2010 17:07

Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod cyflwyno rheolau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i rheithgorau i allu siarad Cymraeg a Saesneg mewn rhai achosion llys.

Gwrthododd y Llywodraeth y syniad gan fod y buddiannau i’r Gymraeg yn dod yn ail i’r egwyddor y dylai rheithgorau gael eu dewis ar hap drwy’r holl gymuned.

‘Dau beth da a dymunol’

Daw’r penderfyniad ar ôl ymgynghoriad i weld a ddylid defnyddio rheithgorau dwyieithog mewn achosion lle mae disgwyl clywed llawer o’r dystiolaeth yn y Gymraeg.

Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder, Claire Ward, roedd y dewis rhwng “dau beth da a dymunol”, sef gallu dewis rheithgorau ar hap, a’r defnydd o’r Gymraeg mewn llysoedd barn.

Dywedodd fod cael gwrandawiad gan reithgor o “gyd-ddinasyddion” mewn achos o drosedd ddifrifol, yn hawl bwysig. Fe ddylai’r rheithgorau hynny gael eu dewis allan o’r gymuned gyfan, meddai.

Dywedodd fod yr hawliau sydd gan siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd mewn llysoedd yng Nghymru yn adlewyrchu ymroddiad y Llywodraeth i Gymru ddwyieithog – mae gan bobol yr hawl i siarad Cymraeg mewn llysoedd ac mae’r wladwriaeth yn talu am gyfieithwyr.