Mae disgwyl i’r Ariannin ymuno gyda Phencampwriaeth Tair Gwlad hemisffer y De yn 2012 ar ôl cadarnhad y byddai’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn darparu arian ar gyfer y cynllun newydd.
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, Bernard Lapasset eu bod wedi cytuno i gefnogi cyflwyno tim y Piwmas i’r gystadleuaeth gyda chyfraniad o $2m i’r achos.
“Yr egwyddor yw cefnogi’r gost o gyflwyno’r Ariannin i Bencampwriaeth y Tair Gwlad,” meddai.
Mae disgwyl i gyngor Bwrdd Rygbi Rhyngwladol gadarnhau’r buddsoddiad mewn cyfarfod ddiwedd yr wythnos.
Tair yn troi’n bedair
Bydd hynny’n agor y drws i’r Ariannin ymuno gydag Awstralia, De Affrica a Seland Newydd ym mhrif gystadleuaeth hemisffer y de.
“Mae gyda ni gytundeb gydag Awstralia, De Affrica a Seland Newydd ar gyfer y rhaglen ariannol sydd yn ei lle, ac mae’r tair gwlad yn gefnogol,” meddai Bernard Lapasset.
Ennill ei lle
Perfformiadau’r Ariannin yng Nghwpan y Byd 2007 oedd wedi tynnu sylw at y ffaith y dylai’r wlad gael y cyfle i chwarae yn erbyn timau gorau’r byd yn gyson.
Ond mae yna bryderon ynglŷn â pha mor bell yw’r Ariannin oddi wrth y gwledydd eraill, a’r ffaith bod mwyafrif o chwaraewyr gorau’r wlad yn chwarae yn Ewrop. Fe fydd yn rhaid teithio miloedd o filltiroedd i gemau.
Er gwaethaf y pryderon, fe ddywedodd Bernard Lapasset y bydd y cynllun yn helpu i adeiladu proffesiynoldeb rygbi’r Ariannin.