Cynyddu maint testun

Golwg360



Cymry wedi colli mewn twyll ariannol mawr

Mawrth 10, 2010 06:56

Roedd pobol o orllewin a de Cymru ymhlith yr 8,500 a gafodd eu twyllo gan gynllun pyramid.

Mae Kevin Foster wedi ei gael yn euog o dwyllo pobol trwy esgus y bydden nhw’n gallu gwneud elw mawr o fuddsoddi mewn cylch gamblo.

Roedd Llys y Goron Harrow wedi clywed bod y dyn busnes o swydd Kent yn ne-ddwyrain Lloegr wedi twyllo pobol o tua £34 miliwn.

Roedd wedi prynu cartrefi a cheir moethus ac wedi cymryd o leia’ £3 miliwn o arian parod o’r cynllun.

Bedwas a Llanelli

Roedd hynny’n cynnwys pobol yn ardal Bedwas a Llanelli – mae nifer ohonyn nhw wedi dweud wrth y BBC am eu colledion a’r ffordd y cawson nhw’u twyllo.

Roedd un dyn wedi colli cymaint â £180,000 ac eraill yn cydnabod eu bod wedi buddsoddi – a cholli – arian wrthgefn eu plant.

Fe ddaeth y cynllun i ben yn 2004 ac yn ôl yr erlyniad yn y llys, fe fyddai Kevin Foster wedi gorfod talu £250 miliwn i dalu’r holl addewidion.

Nid dyma’r tro cynta’ i gynlluniau o’r fath daro cymunedau cymharol dlawd yn ne Cymru – yn 2001, roedd yr AC Helen Mary Jones wedi galw am wahardd cynlluniau o’r fath ar ôl i lawer o fenywod golli arian mewn cynllun yn Llanelli.

Fe gafwyd Kevin Foster yn euog o 14 o’r 16 cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys un o gynnal gweithgaredd ariannol anghyfreithlon. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Ebrill.

Y twyll – sut yr oedd yn gweithio

Roedd Kevin Foster yn cynnal sioeau teithiol ac yn creu ymddiried lleol trwy noddi clybiau a chymdeithasau. Roedd hefyd yn penodi rheolwyr lleol i wneud y gwaith ar ei ran.

Roedd yn addo talu o leia’ £5,000 yn ôl am bob buddsoddiad o £1,000, a hynny o fewn dwy flynedd.

Roedd y bobol ar ddechrau’r cynllun yn cael eu talu ynghynt na phryd a hynny’n sbarduno rhagor o bobol i roi arian.