Cynyddu maint testun

Golwg360



Purfa Sir Benfro – Chevron yn chwilio am brynwr

Mawrth 10, 2010 07:07

Mae cwmni olew Chevron wedi dweud eu bod yn chwilio am brynwr i’w purfa olew yn Sir Benfro, lle mae 1400 o bobol yn gweithio.

Ond mae’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cadarnhau nad yw’r cwmni wedi penderfynu’n bendant eu bod am werthu.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, gallai gymryd dwy flynedd i ddod o hyd i brynwr ac fe fydd y burfa yn parhau i weithredu yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn “gwneud popeth posib” i sicrhau dyfodol swyddi yno.

Roedd yr Aelod Seneddol lleol, Nick Ainger, yn ffyddiog hefyd, gan ddweud bod y cwmni’n addo parhau i weithio ac yn dal i gyflogi prentisiaid.

Ailstrwythuro

Daw datganiad Chevron wrth i’r cwmni aildrefnu eu busnes rhyngwladol ac maen nhw’n chwilio am brynwyr i ddau ran arall o’u busnes yn Ewrop.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oes ganddyn nhw fwriad i gau yr un o’u gweithfeydd ac mai eu “ffocws” o hyd yw gweithredu purfa Sir Benfro “mewn modd saff, dibynadwy, ac mewn dull sy’n gyfrifol yn amgylcheddol.”

Mae safle Chevron ym Mhenfro’n gallu prosesu 220,000 casgen o olew crai’r diwrnod ac, yn ôl un amcangyfri’, mae’n cyfrannu tua £75 miliwn at economi’r ardal bob blwyddyn.

Llun: (Colin Bell CCA 2.0)