Cynyddu maint testun

Golwg360



Caerdydd yn y llys – unwaith eto

Mawrth 10, 2010 07:36

Fe allai clwb pêl-droed Caerdydd wynebu mynd i’r wal unwaith eto heddiw, wrth fynd i’r Uchel Lys i wynebu gorchymyn i’w gau.

Mae adran dreth y Llywodraeth yn gofyn am £1.8 miliwn o ddyledion a’r disgwyl yw y bydd y clwb yn talu’r hanner ac yn gofyn am ragor o amser i dalu’r gweddill.

Pe bai’r Llys yn gwrthod, fe fyddai’r broses yn dechrau i roi’r clwb yn nwylo’r gweinyddwyr.

Fe fyddai hynny’n golygu cosb o ddeg pwynt a diwedd pendant ar obeithion clwb y brifddinas i gyrraedd yr Uwch Gynghrair y tymor nesa’.

Cefnogwyr yn flin

Yn ôl arweinwyr cefnogwyr y clwb, mae’r arian a gafwyd o werthu tir gerllaw’r stadiwm eisoes wedi mynd ac maen nhw’n pryderu bod dyled dreth arall yn cael ei chreu wrth i’r clwb fethu â thalu treth incwm ar gyflogau.

Maen nhw’n dal i deimlo’n flin ar ôl i Gadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale, alw ar gefnogwyr i dalu’n gynnar am docynnau tymor er mwyn prynu chwaraewyr ac yna gwario’r arian ar y ddyled.

Dyma fydd y trydydd tro i Gaerdydd fynd i’r Uchel Lys i wynebu gorchymyn tebyg – hyd yn hyn maen nhw wedi llwyddo i ohirio unrhyw weithredu pellach.