Cynyddu maint testun

Golwg360



Caerdydd – gobeithio cael chwaraewyr yn ôl

Mawrth 10, 2010 07:46

Caerdydd 0 Ipswich 2

Fe allai rhai o sêr Caerdydd fod yn ôl ar gyfer eu gêm fawr ddydd Sadwrn.

Ac, yn ôl y Rheolwr, Dave Jones, mae digon o angen hynny ar ôl i’w dîm golli o 2-0 yn Ipswich neithiwr.

Chafodd yr Adar Glas ddim un cyfle i sgorio yn yr hanner cynta’ yn Portman Road a dim ond perfformiad ardderchog gan y goli, David Marshall, oedd wedi cadw’r sgôr i lawr.

Roed yna ddwy gôl i Daryl Murphy wrth i’r tîm sydd tua gwaelod y Bencampwriaeth roi clec arall i obeithion Caerdydd i fod yn y gemau ail gyfle.

Mae hynny’n rhoi mwy o bwysau fyth ar y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Leicester City, sydd hefyd yn cystadlu am ddyrchafiad.

Chwaraewyr yn ôl

Gobaith Caerdydd yw y bydd Peter Whittingham, Steve McPhail a Mark Kennedy i gyd yn ôl ar gyfer y daith i Gaerlŷr.

Mae’r tri wedi bod allan ers sawl gêm ac, yn ôl Dave Jones, mae angen mwy o gystadleuaeth am lefydd i roi pwysau ar chwaraewyr.

Roedd yn siomedig iawn gyda’r perfformiad yn Ipswich – “Wnaethon ni ddim perfformio, wnaethon ni ddim pasio’r bêl gystal ag y gallwn ni a wnaethon ni ddim creu unrhyw gyfleoedd go iawn.”

Llun: Peter Whittingham – yn ôl gobeithio