Mae cyfraith newydd yn Burma’n gwahardd yr arweinydd democrataidd, Aung San Suu Kyi, rhag ymuno â phlaid wleidyddol ac felly rhag sefyll yn etholiadau’r wlad.
Fe fyddai hynny’n codi amheuon mawr am ddilysrwydd yr etholiadau sydd wedi eu gado gan y junta filwrol sy’n rheoli’r wlad.
Mae’r Gyfraith Cofrestru Pleidiau Gwleidyddol, sydd wedi’i chyhoeddi ym mhapurau newydd y wlad, yn gwahardd troseddwyr rhag bod yn aelod o blaid.
Dal yn gaeth
Fe allai hynny orfodi Aung San Suu Kyi i adael y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth – mae’n cael ei dal yn gaeth yn ei chartre’ ar hyn o bryd ar ôl achos llys yn ei herbyn y llynedd.
Fe fydd y ddedfryd honno – ar gyhuddiad ffug, yn ôl ei chefnogwyr – yn parhau tan fis Tachwedd ac mae wedi bod yn gaeth am y rhan fwya’ o’r 20 mlynedd diwetha’ ers ennill etholiadau diwetha’r wlad.
Bryd hynny, fe wrthododd y junta milwrol iddi gymryd grym ac maen nhw wedi bod yn rheoli Burma – Myanmar – fyth ers hynny.
Mae’r gyfraith hefyd yn gwahardd gweision sifil ac aelodau o urddau crefyddol rhag ymuno â phleidiau gwleidyddol – mae mynachod Bwdaidd wedi arwain protestiadau yn erbyn y Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwetha’.
Dim dyddiad
Yn ôl y gyfraith newydd, mae gan bleidiau gwleidyddol 60 diwrnod i gofrestru gyda’r Pwyllgor Etholiad – ar hyn o bryd, mae’r junta’n cydnabod deg plaid.
Dyw dyddiad yr etholiadau ddim wedi ei gyhoeddi eto a dyw plaid Aung San Suu Kyi ddim wedi dweud a fyddan nhw’n cymryd rhan. Dydyn nhw ddim yn cydnabod cyfansoddiad y wlad.
Llun: Protest yn Burma (o wefan Aung San Suu Kyiu)