Cynyddu maint testun

Golwg360



MI5 – ‘dim syniad’ am boenydio

Mawrth 10, 2010 09:56

Doedd gwasanaethau diogelwch gwledydd Prydain ddim yn gwybod bod yr Unol Daleithiau’n poenydio carcharorion Medi 11.

Dim ond trwy’r papurau newydd y cafodd MI5 wybod am hynny, meddai cyn bennaeth y gwasanaeth, yr Arglwyddes Manningham Buller.

Wrth ateb cwestiynau ar ôl darlith yn Nhŷ’r Arglwyddi, fe ddywedodd nad oedd modd cyfiawnhau poenydio, hyd yn oed os oedd yn achub bywydau.

Roedd hi’n dweud ei bod wedi holi rhai o’i swyddogion pam bod ymosodwyr honedig y ddau dŵr yn rhoi cymaint o wybodaeth i’r Unol Daleithiau – yn hollol groes i brofiad MI5 mewn llefydd fel Gogledd Iwerddon.

Dim ond wedyn y daeth hi’n glir, meddai, eu bod yn cael eu poenydio a bod un o’r arweinwyr, Khalid Sheikh Mohammed, wedi diodde’ artaith boddi – waterboarding – gymaint â 183 o weithiau.

Roedd yr Americaniaid wedi bod yn awyddus iawn i guddio’r hyn yr oedden nhw’n ei wneud, meddai’r Arglwyddes Manningham Buller.

Llun: Adeilad MI5 yn Llundain (Trwydded GNU)