Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi beirniadu’r ymosodwr Michael Chopra am gael cerdyn melyn “twp” yn erbyn Ipswich. Fe fydd y gosb yn ei atal rhag chwarae i’r Adar Gleision yn eu dwy gêm nesaf.
Fe gafodd Chopra ei rhybuddio gan y dyfarnwr Grant Hegley am wrthdrawiad gyda chwaraewr canol cae Ipswich, Owen Garvan.
Dyna oedd ei ddegfed cerdyn melyn y tymor hwn, ac fe fydd yn absennol o’r gemau pwysig oddi cartref yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn a Coventry nos Fawrth nesaf.
Dwl
“Roedd hi’n drosedd cerdyn melyn twp – doedd dim rheswm dros y peth o gwbwl,” meddai Dave Jones.
“Fe ddaeth e oherwydd rhwystredigaeth, ond mae’n rhaid iddo fe (Michael Chopra) fod yn fwy proffesiynol na hynny.
“Fe fydd e’n colli dwy gêm oherwydd diffyg proffesiynoldeb. Ond fe allai hyn roi cyfle i chwaraewr arall ddangos ei ddoniau.”