Cynyddu maint testun

Golwg360



Hunanfomiwr Affganistan – Taliban yn hawlio cyfrifoldeb

Mawrth 10, 2010 10:23

Mae’r Taliban yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am ladd ddau o filwyr NATO ar y ffin rhwng Affganistan a Phacistan ddydd Mawrth diwethaf.

Fe aeth ymosodwr, a oedd yn gwisgo iwnifform heddlu Affganistan, i mewn i ganolfan filwrol NATO yn Chergotah a chynnau ei fest ffrwydrol wrth ymyl grŵp o filwyr a oedd yn cynhesu wrth ymyl y tân.

Mae datganiad gan NATO wedi’r ymosodiad yn cadarnhau fod dau o’u haelodau wedi marw, a bod nifer wedi’u hanafu.

Ymosod yn soffistigedig

Mae’r ymosodiad diweddaraf hwn yn rhybudd pellach o ba mor soffistigedig y mae’r Taliban erbyn hyn – maen nhw wedi cynyddu eu hymosodiadau mewn dinasoedd mawr fel Kabul a chanolfannau milwrol ar ôl i NATO ddechrau hawlio’u tir yn y de.

Ym mis Rhagfyr, fe gerddodd hunanfomiwr i mewn i ganolfan y CIA yn Khost gan ladd wyth o swyddogion. Roedd y CIA yn meddwl ei fod o’n dod atyn nhw gyda gwybodaeth bwysig am Al Qaida.

Mae NATO wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.