Fe gafodd y Weinyddiaeth Amddiffyn rybudd y bydd yn rhaid iddi ddatgelu gwybodaeth i ymchwiliad swyddogol i ladd a cham-drin yn Irac.
Fe ddywedodd Cadeirydd yr ymchwiliad, y cyn farnwr Uchel Lys, Syr Thayne Forbes, y byddai’n defnyddio ei rym i’w gorfodi i drosglwyddo dogfennau a chynnig tystion.
Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried honiadau bod milwyr Prydeinig wedi lladd hyd at 20 o bobol a phoenydio eraill mewn gwersyll-garchar yn ne Irac.
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, eisoes wedi cyfadde’ bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu â datgelu dogfennau i gyfreithwyr rhai o’r dioddefwyr.
“Mae’r Ymchwiliad yn gobeithio ac yn disgwyl cael cydweithrediad pob unigolyn a chorff gyda deunydd neu dystiolaeth berthnasol, yn enwedig asiantaethau’r Llywodraeth a’r wladwriaeth,” meddai Syr Thayne Forbes.
Y cefndir
Testun Ymchwiliad Al-Seady yw digwyddiadau yng Ngwersyll Abu Naji yn 2004 – mae naw Iraciad yn dweud eu bod wedi cael eu poenydio yno a’u bod wedi clywed eraill yn cael eu lladd.
Maen nhw’n dweud mai labrwyr yn gweithio yn y caeau oedden nhw – yn ôl y Fyddin, roedd yr 20 wedi eu lladd mewn brwydr.
Llun: Hofrennydd uwchben Abu Naji (llun o fideo)