Cynyddu maint testun

Golwg360



Pacistan – lladd gweithwyr dyngarol

Mawrth 10, 2010 10:38

Mae adroddiadau fod gwrthryfelwyr wedi ymosod ar swyddfeydd grŵp dyngarol ym Mhacistan heddiw, gan ladd chwe gweithiwr a chlwyfo o leiaf pedwar.

Fe dargedodd yr ymosodwyr arfog swyddfeydd World Vision, grŵp dyngarol Cristnogol sy’n gweithio ledled y byd. Maen nhw ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar helpu’r bobol a ddioddefodd yn dilyn daeargryn yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Pobol o Bacistan yw pob un o’r rhai sydd wedi eu hanafu neu eu lladd, ac mae pennaeth yr heddlu lleol wedi cadarnhau fod dwy ddynes ymhlith y meirw.

Ogi yn dioddef eto

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Ogi, tref fechan yn ardal Mansehra a gafodd ei tharo gan ddaeargryn Kashmir yn 2005.

“Mae’n flin iawn ganddon ni ein bod wedi colli aelodau o staff oedd yn bobol leol ac yn ymroddedig iawn i wella bywydau ym Mhacistan,” meddai James East, llefarydd ar ran World Vision.

“Yn erbyn Islam”

Mae gwrthryfelwyr Islam yn gweld grwpiau cymorth tramor mudiadau eraill sy’n derbyn arian rhyngwladol fel rhai sy’n gweithredu’n groes i grefydd Islam.

Mae’r cyrff dyngarol hyn yn aml yn cyflogi merched ac yn cefnogi mentrau hawliau merched, ac mae hynny’n codi gwrychyn y gwrthryfelwyr hefyd.

Fe sefydlodd nifer o grwpiau cymorth tramor eu swyddfeydd yn Mansehra ar ôl daeargryn 2005, pan gafodd tua 80,000 o bobol eu lladd.