Mae Llywodraeth Cymru wedi “torri ei haddewidion” ac yn trio “camarwain y cyhoedd” gyda’i Mesur iaith Gymraeg, yn ôl llythyr cwyn sydd wedi ei anfon at Brif Weinidog Cymru gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae’r llythyr at Carwyn Jones yn honni bod datganiadau gan y llywodraeth am y Mesur iaith ddydd Iau diwethaf yn “gamarweiniol tu hwnt”.
Mae’r Gymdeithas yn honni hefyd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd wrth hawlio bod y Mesur yn cadarnhau statws swyddogol i’r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg.
Addewid Cymru’n Un
Mae’r Gymdeithas yn honni nad yw’r Mesur yn cyflawni’r addewidion gafwyd yn nogfen Cymru’n Un y byddai “statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg”.
“Mae ein haelodau’n gandryll gyda Llywodraeth glymbleidiol oherwydd ei bod hi wedi torri ei haddewidion a thrio camarwain y cyhoedd wrth ddefnyddio rhethreg hawliau”, meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Does dim hawliau na statws swyddogol i’r Gymraeg yn y Mesur. Yn barod, rydyn ni’n ymwybodol o’r ffaith fod arbenigwyr ym maes y gyfraith yn anniddig ynglŷn â honiad y Llywodraeth fod y mesur yn datgan fod gan y Gymraeg statws swyddogol.”
‘Gwarthus’
“Yr unig hawl sydd yn y mesur yw’r hawl i gyrff a chwmnïau herio unrhyw ofyniad i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’n gwbwl warthus,” meddai Menna Machreth.
“Twyll yw cynllun y Llywodraeth – maen nhw’n dweud fod y safonau yn golygu hawliau ond, yn gyfreithiol, mae hynny’n hollol anghywir. Mae datganiadau’r llywodraeth wedi bod yn gamarweiniol tu hwnt.
“Mae’r mesur hefyd yn sefydlu Comisiynydd a fydd o dan fawd llywodraeth y dydd. Gallai’r gwendidau enfawr hyn yn y Mesur, yn ogystal â’r cefnu ar addewidion, olygu bod y sefyllfa yn waeth nawr nac ar ôl Deddf Iaith 1993.”
Sefydlu eu Comisiynydd Iaith eu hunain
Bydd y mudiad yn cyhoeddi dadansoddiad o wendidau’r Mesur drafft – ynghyd ag argymhellion ynglyn â sut mae gwella’r sefyllfa – yn fuan.
Maen nhw hefyd wedi datgan eu bwriad i ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau a sefydlu eu Comisiynydd Iaith eu hunain.
“R’yn ni wedi ein dadrithio, ond dydyn ni ddim wedi colli ein gweledigaeth,” meddai Menna Machreth. “Os nad yw’r Llywodraeth Llafur-Plaid yn fodlon delifro, rydyn ni’n gwbwl glir y byddwn ni’n parhau i ymgyrchu dros barhad a ffyniant y Gymraeg.”