Cynyddu maint testun

Golwg360



“Canolbwyntiwch” meddai Sousa

Mawrth 10, 2010 11:00

Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa wedi galw ar ei chwaraewyr i ganolbwyntio am weddill y tymor, ar ôl cymryd cam yn nes at sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Fe ddaeth buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Watford yn Vicarage Road neithiwr.

Ar hyn o bryd mae’r Elyrch ar 59 pwynt – naw yn glir uwchben Blackpool, sy’n seithfed yn y tabl.

Ond mae gan Abertawe bump gêm arall i’w chwarae y mis hwn, gan ddechrau gyda dwy gêm gartref yn erbyn Sheffield Wednesday ddydd Sadwrn a West Brom nos Fawrth nesaf.

Dyrchafiad yn bosib

“Mae pawb yn dweud y gallwn ni ennill dyrchafiad oherwydd r’yn ni’n parhau i gael y canlyniadau,” meddai Paulo Sousa. “Ond mae llawer o bethau’n gallu digwydd ym myd -pêl-droed…

“Does dim amser gyda ni i edrych ar y tabl. Mae’n rhaid i ni gadw pethau i fynd tan ddiwedd y tymor. Mae angen i ni barhau i wneud y penderfyniadau cywir, canolbwyntio a sicrhau ein bod ni’n dim anodd i’w guro.”

“R’yn ni’n anelu at ennill pob gêm, ac fe welwn ni ar ddiwedd y tymor ble byddwn ni’n gorffen. ”