Fe fydd banc Northern Rock yn talu bonws i aelodau staff eleni, a hynny oherwydd eu bod wedi gwneud llai o golled na’r llynedd.
Mae wnaeth Northern Rock golled o £257.5m rhwng Ionawr a Rhagfyr y llynedd. Ond, gan fod y golled yn sylweddol lai na’r £1.36bn o golled wnaethpwyd yn 2008, fe fydd staff yn cael eu gwobrwyo eleni.
Dywedodd Northern Rock bod y bonwsau’n cael eu talu oherwydd staff gyrraedd targedau penodol dros y flwyddyn.
‘Dim gwobr am fethu’
Dyw Prif Weithredwr y banc, Gary Hoffman ddim wedi derbyn bonws eleni. Mae’n credu dylai’r staff gael eu gwobrwyo am wneud eu gwaith yn dda – er mai arian y trethdalwyr gafodd ei roi i Northern Rock i’w gynnal trwy’r dirwasgiad.
“Does dim gwobr am fethu,” meddai. “Rwy’n deall ein bod ni’n dal i wneud colledion, ond r’yn ni wedi curo’r targedau osodwyd ac r’yn ni wedi gwella’n sylweddol yn ariannol.
“Mae’r mwyafrif o’r staff fydd yn elwa o gael bonws ar gyflog o rhwng £20,000 a £25,000 ac yn byw yn ardal Newcastle a Sunderland.”
Diweithdra a phrisiau tai yn allweddol
Mae lefel diweithdra a phrisiau tai wedi bod yn allweddol wrth drio rhoi banc Northern Rock yn ôl ar ei draed, meddai Gary Hoffman.
Mae nifer y bobol sy’n methu â thalu eu morgeisi yn parhau i godi, meddai. Ond, mae’r ffigwr yn uwch hefyd oherwydd bod Northern Rock wedi trio gadael i bobol aros yn eu cartrefi mor hir â phosib. Northern Rock wedi datgelu bod y nifer o forgeisi mewn ôl-ddyledion wedi yn parhau i gynyddu ond fod graddfa’r cynnydd wedi arafu yn y trydydd chwarter.
Fe gafodd 2,061 o gartrefi eu hadfeddiannu gan Northern Rock yn 2008, o gymharu â 3,620 yn 2008.
Dychwelyd i’r sector preifat
Mae disgwyl i Northern Rock fynd yn ôl i fod yn gwmni preifat. Mae Banc Cenedlaethol Awstralia a Virgin Money wedi cael eu henwi fel prynwyr posib.
“Does dim proses, amserlen na brys,” meddai Gary Hoffman, gan gadarnhau fod trafodaethau anffurfiol wedi eu cynnal.