Cynyddu maint testun

Golwg360



Google, y Brawd Mawr

Mawrth 10, 2010 12:34

O fory ymlaen, fe fydd modd gweld lluniau 360 gradd o bron i chwarter miliwn o strydoedd gwledydd Prydain ar y we.

Roedd lluniau mewn 25 o ddinasoedd eisoes i’w gweld ar Google’s Street View ers mis Mawrth diwethaf.

Ond bydd y gwasanaeth yn ymestyn yfory i ddangos 95% o strydoedd gwledydd Prydain – sef 210,000 o filltiroedd yn ychwanegol.

Tynnwyd y lluniau gan gamera panoramig arbennig oedd wedi ei osod ar do car oedd yn cael ei yrru o gwmpas y strydoedd.

Help i ladron?

Mae’r gwasanaeth wedi cael ei feirniadu gan y rheiny sy’n credu ei fod yn amharu ar breifatrwydd. Mae honiadau hefyd y gall y lluniau manwl o strydoedd lle mae tai a cheir, gael ei gamddefnyddio gan droseddwyr.

Ond mae Google wedi dweud y gall y dechnoleg fod o fudd i fusnesau, fel gwestai, a fydd yn gallu dangos lluniau o’r ardal gyfagos i ddarpar-gwsmeriaid ar y we.

Mae’r dechnoleg eisoes yn cael ei defnyddio mewn gwledydd eraill ar y cyfandir.