Cynyddu maint testun

Golwg360



Cân i Gymru – “gwobr ormodol yn achosi ffwdan”

Mawrth 10, 2010 12:52

Mae £10,000 o wobr Cân i Gymru yn “ormod o lawer”, meddai cyn-enillydd y gystadleuaeth wrth Golwg360.

Ond, o ennill cymaint â hynny o arian, fe ddylai’r cyfansoddwr buddugol ddefnyddio cyfran ohono i dalu am ei drip i Iwerddon er mwyn cynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban Geltaidd.

Fe ddaeth sylwadau Arfon Wyn wedi trafodaeth ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru ddoe, lle y daeth hi’n amlwg nad oes ond £300 o arian ychwanegol ar gael i dalu costau teithio’r canwr buddugol, Tomos Wyn, i fynd i Dingle eleni.

Cyfansoddwr y gân, Alun ‘Tan Lan’ Evans, sydd wedi derbyn y wobr o £10,000, gyda’r canwr yn derbyn un taliad o £500 am recordio’r gân a pherfformio ar y rhaglen fyw.

“Hollol resymol”

“Petai gwobr Cân i Gymru yn bum cant o bunnoedd, yn hytrach na deg mil, fydda yna ddim miri,” meddai Arfon Wyn, sydd wedi ennill Cân i Gymru ddwywaith gyda ‘Harbwr Diogel’ a ‘Cae o Yd’.

“Oherwydd bod gormodedd o wobr, mae miri bob blwyddyn. O’n i jyst yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn defnyddio’r deg mil ar gyfer helpu mynd i Iwerddon. Dyna oedden ni’n ei wneud.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n hollol resymol.”

Buddsoddi yn talu’n ôl

“Dw i’n coelio y dylai bandiau fuddsoddi ynddyn nhw’u hunain,” meddai Arfon Wyn wedyn. “Fe gawson ni lawer o gigs yn Iwerddon ar ôl gwneud hynny.

“No way oedden ni am eistedd i lawr drwy’r wythnos yn canu yn un gystadleuaeth yn Iwerddon – aethon ni rownd tafarndai.”

Fe gyfrannodd Arfon Wyn £2,500 o arian ‘Cae o Ŷd’ at elusen Oxfam, a rhannu gweddill yr arian, gan roi cyfran i’r canwr.