Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi anfon llythyr ar y cyd at gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson, yn cyhuddo’r gorfforaeth o fynd yn groes i’w dyletswydd i fod yn ddiduedd.
Mae’r ddwy blaid yn honni fod y BBC wedi “peryglu ei hunan yn wleidyddol” ar ôl penderfynu peidio â chynnwys Plaid Cymru a’r SNP yn y trafodaethau teledu cyn yr etholiad cyffredinol.
Anfonwyd y llythyr ar y cyd gan arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ac arweinydd yr SNP, Alex Salmond.
Mae’r ddau arweinydd hefyd wedi anfon llythyr agored i’r wasg yn cwyno nad yw’r BBC wedi cymryd i ystyraeth fod y balans gwleidyddol wedi newid yn dilyn datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Trafod ar y teli
Fe fydd y trafodaethau rhwng arweinyddion Prydeinig y blaid Lafur, y blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn digwydd cyn yr Etholiad Cyffredinol. Fe fyddan nhw’n cael eu darlledu ar y BBC, ITV a Sky.
Dyw’r trafodaethau ddim yn agored i Blaid Cymru na’r SNP, gan fod y cwmnïau darlledu wedi dod i benderfyniad ymysg ei gilydd mai dim ond yr arweinyddion sydd â siawns gwirioneddol o fod yn Brif Weinidog Prydain a ddylai gael cymryd rhan.
Mae’r darlledwyr wedi dweud eu bod yn mynd i gynnal trafodaethau eraill ar gyfer y pleidiau llai.