Fydd cynllun i ddelio a gofalu am ddioddefwyr dementia yng Nghymru ddim yn cael ei gyhoeddi nes y bydd Llywodraeth y Cynulliad wedi derbyn ac ystyried pedwerydd adroddiad ar y pwnc ddiwedd y mis hwn.
Mae Aelod Cynulliad De Penfro, Angela Burns, wedi beirniadu’r ddwy flynedd o oedi sydd wedi bod yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth.
“Rwy’n methu credu ei bod wedi cymryd 20 mis i gyrraedd y pwynt yma, a bod angen i ni nawr gael mwy o oedi. Dyn a wyr faint mae hyn i gyd yn ei gostio,” meddai Angela Burns.
“R’yn ni’n sôn am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn rhoi trefn ar beth sy’n broblem gynyddol a thorcalonnus i nifer fawr o bobol.
“Pe baech chi’n gweithio mewn diwydiant a’i bod hi’n cymryd dwy flynedd i ddatblygu a delifro ar brosiect fel hyn, fe fyddai pobol yn gofyn cwestiynau.”
Profiad personol
Mae gan Angela Burns brofiad personol o effaith dementia ar bedwar o aelodau ei theulu ei hun.
“Yr hyn darodd fi oedd, nid yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw, ond yr hyn ddigwyddodd i’r teulu oll o’u cwmpas nhw,” meddai.
“Rwy’n meddwl am fy mam-gu a fy modrybedd, eu poen meddwl a’u blinder a’u rhwystredigaeth o fethu â chael trwodd at bobol a chael y gefnogaeth oedden nhw’n ei haeddu.
“R’yn ni eisie gwneud yn siwr nad yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn gadael dioddefwyr dementia i lawr, na’u rhieni na’u teuluoedd.
“Ac mae yna gymaint o feddygon a gweithwyr cymdeithasol ac awdurdodau lleol sy’n gweithio’n galed i’w cefnogi nhw. Mae angen gwneud yn siwr fod digon o arian ar gyfer ariannu’r gwaith i gyd.”