Cynyddu maint testun

Golwg360



Prydain yn wynebu ”lôn anwastad”

Mawrth 10, 2010 15:03

Mae gwledydd Prydain yn wynebu ffordd anwastad iawn tra bydd yr economi yn ei hadfer ei hun, yn ôl Gordon Brown. Ond, meddai wedyn, ganddo ef y mae’r “cymeriad” i sicrhau llwyddiant yn y cyfamser.

Daeth ei sylwadau mewn araith i weithwyr y Ddinas yn Llundain, ac fe ddefnyddiodd ei gyfle i ymosododd ar y Ceidwadwyr.

Fe rybuddiodd fod bwriad y blaid honno i dorri’n ôl ar wariant cyhoeddus yn syth, yn un sy’n cael ei “yrru gan ideoleg”.

Ac fe allai’r ideoleg yma wthio Prydain yn ôl i ddirwasgiad, meddai.

Ar yr wyneb

“Er gwell neu er gwaeth, efo fi, rydach chi’n gwybod beth ydach chi’n ei gael,” meddai Gordon Brown.

Llun: Gordon Brown gyda Changhellor y Trysorlys, Alistair Darling