Cynyddu maint testun

Golwg360



Bil treth Caerdydd – talu cyn mis Mai

Mawrth 10, 2010 15:11

Mae’n rhaid i Glwb Pêl-droed Caerdydd dalu ei fil treth o fewn y ddau fis nesaf, neu fe fydd yn cael ei ddiddymu.

Fe ymddangosodd Caerdydd o flaen yr Uchel Lys yn Llundain heddiw i ateb gorchymyn gan Gyllid a Thollai ei Mawrhydi i ddirwyn y clwb i ben.

Dywedodd Matthew Smith, a oedd yn cynrychioli’r adran Cyllid a Thollau, bod £1.9m o ddyled gan y clwb, a’i fod yn symud arian o un lle i’r llall er mwyn talu biliau yn y tymor byr.

Trafferth llif arian “dros dro”

Clywodd y llys gan gynrychiolydd Caerdydd, Elaine Palser, y bydd y clwb yn derbyn £6m gan fuddsoddwr “allanol” yn fuan, ac y bydd yr arian hwnnw’n ddigon i dalu’r ddyled.

Dywedodd Elaine Palser nad yw’r clwb yn fethdalwyr, a bod ganddyn nhw asedau sylweddol gan gynnwys chwaraewyr sy’n werth cyfanswm o £30m. Ychwanegodd bod problemau’r clwb wedi cael eu hachosi gan “anawsterau llif arian dros dro”.

Mae’r llys wedi rhoi 56 diwrnod i Gaerdydd ddod i gytundeb llawn a therfynol gyda’r adran Cyllid a Thollau.