Cynyddu maint testun

Golwg360



Cwmni’n dathlu pum mlynedd o gysgu’n sownd!

Mawrth 10, 2010 15:11

Mae cwmni sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn bump wedi gwneud hynny trwy lansio cynnyrch newydd – casgliad o welyau.

Matresi organig yw busnes Abaca ond mae sefydlydd y cwmni, Rhiannon Rowley o Landeilo, yn cyfadde’ bod y pwysau wedi gwneud iddi golli cwsg yn y dyddiau cynnar.

Ond mae poblogrwydd pethau organig yn lledu o fwyd i nwyddau eraill hefyd …

Agoriad llygad
Ro’n i’n gweithio yn y diwydiant matresi am sawl blwyddyn cyn sefydlu Abaca, ac felly wedi cael profiad uniongyrchol o’r cemegau oedd yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ym mhob matras gonfensiynol. Ond yn ogystal â’r angen clir am fatresi naturiol ar gyfer pobol gydag alergeddau neu ME, ro’n i am greu casgliad o gynnyrch moethus dros ben – wedi’r cwbl, r’yn ni’n treulio traean o’n bywydau yn y gwely!

Tipyn o hunllef
Roedd blwyddyn gyntaf y busnes yn un anodd ac ofnadwy a dweud y gwir. Yn ein mis cyntaf yn ôl yn Chwefror 2005, dim ond un fatras cot a gafodd ei brynu ac roedd busnes yn araf! Beth oedd o’m plaid oedd bod y plant wedi gadael gartref ac felly yr unig fabi i fecso amdano oedd y busnes! Dw i’n deall ers hynny pam y mae cymaint o fusnesau bach newydd yn rhoi’r gorau iddi – mae’r arian yn dod i mewn yn araf ac yn mynd mas yn gyflym.

Matras Maesyfed

Dim gorffwys ar ein rhwyfau
Doedd yna ddim un ‘big break’,ond yn hytrach gyda gwaith caled mae pethau’n raddol wedi cyrraedd y pwynt lle mae’r cwmni’n cymryd yr un faint o arian ag yr ydym yn ei wario, sy’n grêt. Ond mae’r awydd i barhau ac i wella yn dal i fod yna, ac mae gyda ni gynlluniau i ehangu’r gweithle, y cynnyrch, y marchnadoedd ac efallai hyd yn oed agor siop!

Cyfrinach cwsg braf
Mae bod yn benderfynol wrth gwrs yn helpu ond beth sy’n rhoi tawelwch meddwl ym myd busnes yw cael y cynnyrch iawn ar gyfer yr amser iawn. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r symudiad bwyd wedi creu carfan o bobol sy’n gwerthfawrogi manteision cynnyrch organig – mae hyn ynghyd â’r cynnydd mewn alergeddau wedi newid ein ffordd o ymchwilio a siopa – mae pobl erbyn hyn yn holi am gynhwysion a tharddiad eu nwyddau, ac ym maes dewis gwelyau, mae’r meddylfryd yma’n aml yn arwain tuag at Abaca!

Cyfri’ defaid cefn gwlad
Tyfais i fyny yng nghanol ffermydd defaid yn Rhandirmwyn, felly mae gwlân Cymreig yn bwysig iawn i mi – wedi’r cwbl dw i bellach yn y busnes cyfri defaid! Erbyn hyn, mae’r cwmni’n defnyddio 13% o wlân organig Prydain ac mae hyn i gyd yn dod o Gymru – ffaith dwi’n gobeithio y bydd yn annog mwy o ffermydd Cymru i’w gynhyrchu. Mae Abaca’n unigryw o ran defnyddio’r gwlân organig yn ei stad wreiddiol – mae’r rhan fwyaf yn cael ei droi’n garpedi’r dyddiau hyn!

Matras Caer

Gwelyau o Gymru
Yn dilyn galw gan gwsmeriaid am welyau ethigol ac organig i gyd-fynd â’r matresi, buom yn gweithio gyda chwmni allanol i ddatblygu cynlluniau pren caled allan o goed derw, ffawydd ac onnen o fforestydd cynaliadwy. Gan eu bod wedi profi’n boblogaidd iawn ers i ni ddechre’u gwerthu yn yr hydref, r’yn ni ar fin lansio’r un fath o gasgliad wedi’i wneud gan ein seiri ein hunain.

Gwelyau i gleifion, gwesteion ac enwogion!
Rhois stop ar gostau hysbysebu yn 2009 oherwydd yr argyfwng ariannol, ond erbyn hyn mae’n debyg bod gennym bresenoldeb digonol ar y we ac felly r’yn ni’n eithaf adnabyddus yn ein maes. R’yn ni’n gwerthu i westai ecogyfeillgar yng Nghymru a Lloegr, i nifer o enwogion (cyfrinachol wrth gwrs!) ac yn fwy diweddar mae Ysbyty Salwch Alergedd ac Amgylcheddol Brakespear yn Swydd Hertford wedi bod yn argymell llawer o’u cleifion i ddod aton ni – marchnata ar lafar ar ei orau!

Cloc larwm ben bore?
Am gyfnod hir, pwysau gwaith aruthrol oedd yn fy llusgo mas o’r gwely, ac ro’n i’n rheolaidd yn ymestyn y diwrnod gwaith o 7 y bore tan 9 y nos. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae gen i Guto’r ci – un o’r pethau gorau erioed i ddigwydd i mi – hebddo, mae’n bosib y byddai pwysau’r busnes wedi fy lladd i! Dw i bellach yn codi tua 6 y bore i fynd ag ef am dro ym Mharc Dinefwr, ac ar ôl gwneud diwrnod synhwyrol o waith, mae Guto am fynd am dro arall erbyn 5 y prynhawn ac felly does dim hongian ambeiti yn y swyddfa – fel ci, mae e’n gwneud yn gywir be mae e’n ei ddweud ar y bocs!