Cynyddu maint testun

Golwg360



Dim cynnydd yng nghostau trin dannedd

Mawrth 10, 2010 15:25

Mae costau deintydd cleifion wedi’u rhewi yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, er mwyn gwneud yn siwr fod mwy o bobol yn mynd i weld deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, heddiw.

“Yn ogystal â chael mwy o bobol i ddefnyddio deintyddion, r’yn ni hefyd eisie i bobol gymryd cyfrifoldeb am ofalu am iechyd eu cegau eu hunain, fel am eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol.

Mwy o ddeintyddion GIG

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy o waith yn cael ei wneud i’r GIG gan fwy o ddeintyddion yng Nghymru,” meddai Edwina Hart.

“Yn y llefydd lle’r oedd hi’n anodd, yn y gorffennol, i gael gwasanaeth, mae hi wedi gwella fwyaf.”

Y ffigyrau

Mae prisiau yng Nghymru wedi aros yr un fath ers Ebrill 2006, a’r bwriad yw y bydd yn aros ar lefel 2006 yn ystod 2010/11, yn ôl Edwina Hart.

• Diagnosis, cynllunio triniaeth a chynnal a chadw: £12
• Triniaeth: £39
• Darparu offer: £177
• Triniaeth frys: £12