Cynyddu maint testun

Golwg360



Tad yn euog o lofruddio’i ferch

Mawrth 10, 2010 15:34

Mae tad a laddodd ei ferch ac yna gyrru ei chorff o gwmpas canolbarth Cymru am 10 awr, wedi ei gael yn euog o’i llofruddio.

Roedd Gary Fisher, 48, o Solihull, Birmingham, wedi cyfaddef dynladdiad Channelle Sasha Jones, ac wedi honni ei fod ef a’i ferch 17 oed wedi cytuno i farw gyda’i gilydd.

Roedd wedi gwrthod rhoi tystiolaeth i’w amddiffyn ei hun yn y llys, ond roedd wedi honni fod ei ferch eisiau marw ers iddi gael ei threisio.

Fe wrthododd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fersiwn ef o’r stori, ac fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth heddiw.

Aberteifi ac Aberaeron

Lladdodd Gary Fisher ei ferch drwy ei thrywanu mewn maes parcio tafarn yn Aberteifi – y dre lle’r oedd Chanelle Sasha Jones yn byw.

Roedd Gary Fisher wedi gyrru corff ei ferch o gwmpas am oriau ar Awst 2, 2009, cyn cael ei stopio gan yr heddlu ger Aberaeron.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.