Cynyddu maint testun

Golwg360



Disgwyl colli 150 o swyddi yng Nglannau Dyfrdwy

Mawrth 10, 2010 18:00

Mae disgwyl y gall tua 150 o swyddi gael eu colli yn ffatri Toyota Glannau Dyfrdwy.

Yn ôl adroddiadau, bydd y diswyddo yn wirfoddol ac yn rhan o doriadau ehangach gan Toyota ar draws gwledydd Prydain.

Mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi na fydd ei weithwyr yn derbyn codiad cyflog am y tro, oherwydd y sefyllfa economaidd “ddifrifol”.

‘Dyfodol cadarnhaol’

Ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud fod gan y safle “ddyfodol cadarnhaol”.

Yn ôl llefarydd, mae disgwyl y bydd Toyota yn cyflwyno model o gar hybrid newydd yn nes ymlaen eleni, a bydd yr injan yn cael ei chynhyrchu yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae hyn yn ôl y llefarydd yn dangos “hyder” y cwmni yn y safle.

Dywedodd y llefarydd hefyd fod y Llywodraeth wedi bod yn cadw golwg fanwl ar sefyllfa Toyota ac wedi bod mewn cysylltiad cyson â’r cwmni.

“Fe fyddwn ni’n parhau i roi’r holl gymorth posib i’r cwmni ac i’r gweithwyr i amddiffyn dyfodol y safle” meddai.

Diswyddiadau gwirfoddol

Yn ôl adroddiadau, bydd ceisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol yn dechrau yn yr haf.