Cynyddu maint testun

Golwg360



Dipyn o steilio

Mawrth 11, 2010 11:37

Y penwythnos yma, fe fydd Sioned Rees, merch 16 oed, yn cymryd rhan yn sioe ffasiwn fwya’ de-orllewin Cymru.

Y ferch o Bontrhydfendigaid yng Ngheredigion sydd newydd ennill teitl ‘Prentis y Flwyddyn 2010’ yng nghystadleuaeth flynyddol cwmni trin gwallt Andrew Price.

A hithau;’n gweithio ‘n salon y cwmni yn Heol y Santes Fair, Caerfyrddin, fe enillodd wobr y prentis ar y cyd gyda Daniel Williams o salon Abertawe, gan guro 32 o brentisiaid eraill ledled y cwmni, sydd erbyn hyn yn berchen ar saith salon yn y De-orllewin.

Meddai Sioned, “Mae’r gystadleuaeth yn un fywiog gan fod y cwmni’n annog bob prentis a thechnegwr lliw i ymgeisio, wedyn mae angen tipyn o ymdrech i ddal llygad y pum beirniad”.

“Dw i’n credu wnes i lwyddo drwy anwybyddu steiliau traddodiadol a chreu steil byr, choppy ac edgy ar y thema roc a rôl – roedd yn dipyn o lwyddiant teuluol hefyd gan taw fy chwaer, Hayley, oedd y fodel!”.

Wella, wella, wella

Rhan o’r wobr i Sioned Rees oedd treulio diwrnod yn Llundain yn derbyn hyfforddiant gan gwmni cynnyrch gwallt ‘Wella’ ar ddulliau steilio gwallt glamorous – “rhywbeth fel yr hyn fyddech chi’n ei weld ar selebs neu yn yr Oscars!”.

“Dw i newydd ddod ‘nôl o Lundain ond yn barod mae gen i lawer mwy o ddealltwriaeth a syniadau trin gwallt diolch i’r cwrs – roedd yn sicr yn brofiad grêt gan fod Wella yn un o gewri’r byd trin gwallt”.

Mae rhan arall y wobr yn dod ddydd Sul pan fydd yn arddangos y steil unwaith eto mewn sioe ffasiwn newydd (‘Fashion Addict’), sydd wedi ei chefnogi gan y Daily Mail ac yn digwydd mewn pabell fawr ar safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Y steil

Fe fydd y sioe – y digwyddiad mwyaf o’i fath yn y De-orllewin – yn cynnwys dawnswyr o’r ‘X-Factor’ ac o sioeau Kylie Minogue, enillydd ‘Britain’s Next Top Model’ y llynedd a llawer o dalent lleol yn cynnwys dylunwyr, siopau dillad, modelau ac wrth gwrs trinwyr gwallt o gwmni Andrew Price.

“Yng nghanol yr holl fwrlwm, bydda i’n ail-wneud yr un steil gwallt o’r gystadleuaeth Prentis y Flwyddyn – eto’n defnyddio Hayley fel model . Mae’n gyffrous iawn i fod yn rhan o sioe mor fawr fel merch 16 oed!”

Dal i dorri

“Y cam nesaf yw gweithio tuag at gymhwyster technegydd lliw ac yna gweithio i fyny oddi yno – rwy’ wedi bod yn lwcus iawn o’r dechrau – o’r jobyn Sadwrn yn salon ‘Dere i Dorri’ yn Llanbed pan o’n i yn y coleg i’r profiad gwych yma yn brentis yn Andrew Price”.

“Dw i bellach yn gobeithio aros o fewn Andrew Price, mae’r cwmni’n cynnig cyfleoedd gwych o fewn y byd trin gwallt yng Nghymru!”.