Mae sylwadau dilornus un o brif papurau Iwerddon am hyfforddwr rygbi Cymru “yn rhan o’r ddrama” sy’n digwydd ar drothwy gemau pwysig yn ôl sylwebydd rygbi o Gymru.
Yn ôl Alun Wyn Bevan mae colofnydd yr Irish Independent yn parhau’r “rhyfel geiriol” ddechreuwyd gan Warren Gatland llynedd drwy honni’r wythnos hon fod gan Gatland “agenda bersonol sy’n llawn gwenwyn” yn erbyn rygbi Iwerddon.
Llynedd roedd Gatland wedi honni nad oedd neb yn hoffi chwaraewyr Iwerddon ac ar drothwy’r gem yn Nulyn ddydd Sadwrn, mae’r Irish Indepenent yn taro nôl.
Mae nhw’n dweud fod yn well gan Iwerddon chwarae Lloegr na Chymru, nad yw Caerdydd yn le da i gynnal gem Chwe Gwlad ac fod “awyrgylch o wrthdaro” rhwng dilynwyr y ddwy wlad llynedd.
Mae hyn yn siŵr o ddigio’r miloedd o ddilynwyr sydd ar eu ffordd i Ddulyn.
“Mae’r drwgdeimlad yn mynd yn ôl i’r cyfnod pan oedd Gatland yn hyfforddi tîm Iwerddon ac yn teimlo ei fod wedi cael ei drin yn wael gan y byd rygbi yn Iwerddon,” meddai Alun Wyn Bevan.
Dywed Vincent Hogan yn yr Irish Indepenedent fod Gatland wedi “dechrau cosi yn 2001 ac mae’n dal i cosi’r grachen hyd heddiw : sef y flwyddyn y penderfynodd Undeb Rygbi Iwerddon beidio rhoi cytundeb newydd iddo.”
“Mae hon yn gem bwysig i’r Gwyddelod – yn bwysicach nag yw hi i ni – ac efallai fod hyn hefyd yn rhan o’r ymosodiad yn y wasg yn Iwerddon.,” meddai Alun Wyn Bevan.
“Ond fydd pawb yn cusanu ac yn siglo dwylo ar ddiwedd y gêm!”