Cynyddu maint testun

Golwg360



National Theatre Wales yn perfformio am y tro cyntaf

Mawrth 11, 2010 12:38

Heno, bydd chwe actor yn perfformio yng nghynhyrchiad cyntaf cwmni drama Saesneg newydd Cymru sy’n olrhain hanes cymunedau’r glowyr yn y de.

Fe fu awdur A good Night Out in the Valleys Alan Harris a Chyfarwyddwr Artistig National Wales John E McGrath yn ymweld â neuaddau a chanolfannau yn y cymunedau glo ac yn holi pobl leol am eu diffiniad o noson dda fel sail i’r ddrama.

Ymhlith yr actorion mae rhai o sêr rhaglenni Belonging, High Hopes a Skins -Oliver Wood, Amy Starling, Boyd Clack, Sharon Morgan, Huw Rhys a Siwan Morris.

Mae actorion National Theatre Wales wedi bod yn ymarfer ers mis Chwefror diwethaf a bydd y ddrama’n cael ei pherfformio mewn pump o sefydliadau’r glowyr.

Lle?

Dydd Iau 11 a dydd Gwener 12 Mawrth 2010, 7.30pm
Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon

Dydd Mawrth 16 Mawrth 2010, 7.30pm
Neuadd y Gweithwyr, Blaengarw

Dydd Iau 18 a dydd Gwener 19 Mawrth 2010, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Pontardawe

Dydd Mawrth 23 Mawrth 2010, 7.30pm
Neuadd y Gweithwyr Bedwas

Dydd Gwener 26 a dydd Sadwrn 27 Mawrth 2010, 7.30pm
Coliseum