Mae tirlithriad mewn pentref yng ngogledd-orllewin China wedi lladd o leiaf 17 o bobl.
Mae achubwyr yn nhalaith Shaanxi yn brysur yn ceisio dod o hyd i bobl wedi i wal enfawr o bridd ddymchwel oddi ar ochr mynydd yn ôl asiantaeth newyddion Xinhua.
Fe wnaeth y tirlithriad ddinistrio o leiaf 25 o dai ym mhentref Shuanghuyu ac mae 11 o bobl ar goll.
Yn ôl Guo Peicai, swyddog lleol, mae’n annhebygol y bydd yr awdurdodau’n llwyddo i ddod o hyd i ragor o bobl oherwydd maint y difrod.
“Mae tai wedi’u claddu’n gyfan gwbl” meddai Guo Xinhua.
Hyd yn hyn, fe gafodd deg o bobl eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau.