Mae peryg rhoi sylw i fanylion Mesur Iaith a cholli golwg ar yr angen i gael rhagor o bobol i ddefnyddio’r Gymraeg, meddai’r Gweinidog Treftadaeth.
“Mae hi’n haws malu awyr – os ga’ i ei rhoi hi felly – a hollti blew am ddiffiniadau nag ydi hi i wneud y job anodd allan fan’na,” meddai Alun Ffred Jones mewn cyfweliad yn Golwg.
Mae’n mynnu bod y Mesur Iaith sydd newydd ei gyhoeddi yn ddigon cry’ o ran rhoi statws i’r iaith Gymraeg.
“Petai rhywun yn trio herio’r ffaith bod y Gymraeg yn iaith â statws swyddogol yng Nghymru, bysen nhw’n gallu troi at y ddeddf a dweud, ‘mae o’n dweud fan hyn’.”
Fe bwysleisiodd y bydd y Llywodraeth yn fodlon ystyried newidiadau yn y Mesur, gan gynnwys galwad am i ddefnyddwyr yr iaith gael yr un hawl â busnesau i apelio yn erbyn safonau iaith sy’n cael eu gosod gan y Comisiynydd newydd.
Y stori’n llawn yn Golwg yr wythnos yma