Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn honni fod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriad mawr drwy wrthod caniatáu rheithgorau Cymraeg mewn rhai achosion.
Mae’n dweud bod siaradwyr Cymraeg yn cael cam ac y bydd pobol yn llai parod i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd.
Yn ôl Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, mae’r egwyddor o sefydlu rheithgorau dwyieithog yn “ganolog i sicrhau cyfiawnder” mewn achosion lle mae Cymraeg yn cael ei ddefnyddio.
Penderfynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddydd Mawrth ei bod yn fwy pwysig dewis rheithgor ar hap o’r holl gymuned, na chyflwyno’r egwyddor “dymunol” o ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Cael cam wrth gyfieithu
Yn ôl Meirion Prys Jones, mae pobol sy’n dewis rhoi eu tystiolaeth yn y llys drwy gyfrwng y Gymraeg “dan anfantais fawr” gan fod angen i’r dystiolaeth honno gael ei chyfieithu.
“Mae hi’n anochel” meddai, “y bydd rhai pethau’n cael eu colli mewn cyfieithiad, felly mae’r egwyddor o sefydlu rheithgorau dwyieithog yn ganolog i sicrhau cyfiawnder mewn achosion o’r fath.
“Mae risg amlwg y bydd siaradwyr Cymraeg yn anfodlon defnyddio’r Gymraeg yn y llys oherwydd amheuaeth ynghylch dilysrwydd cyflwyno tystiolaeth drwy gyfieithydd.
“Tra fy mod i’n cydnabod na fyddai mor rhwydd dewis rheithgor Cymraeg ei iaith ar hap ym mhob rhan o Gymru – gan nad yw’r canrannau o siaradwyr Cymraeg yn arbennig o uchel – dw i ddim yn derbyn mai dyna fyddai’r sefyllfa ar draws Cymru.
“Yn yr ardaloedd hynny lle mae yna niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, yn y Gogledd a’r Gorllewin, byddai dewis rheithgor Cymraeg ar hap yn gwbl ymarferol.
Saesneg da yn hanfodol
Honnodd Meirion Prys Jones hefyd fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymddwyn yn anghyson â’i harferion ei hunan.
“Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer swyddi rhai Ynadon Heddwch yng Nghymru” meddai, “a hynny er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn o’r achosion.
“Ymhellach na hynny, dyw rheithwyr ddim yn cael eu dewis yn gyfangwbl ar hap ar hyn o bryd chwaith. Rhaid cael ‘sgiliau Saesneg priodol’ i wasanaethu fel rheithiwr dan Ddeddf Rheithgorau 1974.
“Os yw’n dderbyniol i gyfyngu ar y dewis o reithwyr ar sail iaith drwy ddewis siaradwyr Saesneg yn unig, yna mae modd cyfiawnhau dewis o blith siaradwyr Cymraeg yn unig hefyd.
“Mae yna wendid sylfaenol iawn yn eu rhesymeg dros wrthod rheithgorau dwyieithog.”
Llun: Meirion Prys Jones