Mae newyddiadurwr Prydeinig a gafodd ei garcharu fis yn ôl yn Gaza wedi cael ei ryddhau gan Hamas.
Cafodd Paul Martin ei ryddhau ar ôl ei gael yn euog o “fod yn asiant ar ran Israel” ac mae wedi cael ei wahardd rhag mynd yn ôl i Gaza.
Cafodd ei arestio yn Gaza gan Hamas ar 14 Chwefror pan roedd yn bwriadu rhoi tystiolaeth ar ran dyn Palestiniaidd oedd wedi ei gyhuddo o ysbïo ar ran Israel.
Mae Paul Martin bellach yn Israel, ac mae ei gyfreithwyr yn parhau i wadu’r cyhuddiadau.
Cafodd y corff milwrol Islamaidd Hamas eu hethol i reoli Gaza yn 2007.