Cynyddu maint testun

Golwg360



Cynhadledd gyffuriau er cof am ferch ifanc

Mawrth 11, 2010 14:10

Mae arweinydd Cyngor Sir Gâr yn bwriadu trefnu cynhadledd i drafod problem gyffuriau ardal Llanelli yn sgil marwolaeth Hannah Meredith ar ôl cymryd cyfuniad o heroin ac alcohol.

Mae Meryl Gravell eisoes wedi cefnogi ymgyrch modryb y ferch 17 oed i agor Canolfan yn y dre a fydd yn cynnig cefnogaeth i bobol ifanc a’u teuluoedd.

“Dw i’n bwriadu trefnu Cynhadledd Hannah Meredith fel y cam cynta’ ymlaen. Y bwriad yw dod â phob un o’r asiantaethau, sy’n gwneud gwaith da yn yr ardal yn barod, at ei gilydd.

“Gobeithio wrth ddod a phawb at ei gilydd byddwn ni’n gallu dod o hyd i syniadau ac adnoddau i frwydro yn erbyn y defnydd o heroin yn Llanelli.”

Ymgyrch modryb Hannah

Mae modryb Hannah Meredith, Lisa Moore wedi dechrau ymgyrch i agor Sefydliad yn ei henw yn y dre er mwyn tynnu’r gwasanaethau sydd eisoes mewn bod at ei gilydd.

“Dw i am dynnu’r gwasanaethau at ei gilydd,” meddai Lisa Moore, “ er mwyn gallu creu cynllun neu raglen i rywun sydd ar gyffuriau sydd yn siwtio eu hanghenion nhw yn benodol.

“Dyw pob ateb ddim yn ffitio pob person fel ei gilydd. Hefyd mae angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd fel i ni wedi profi ein hunain gyda Hannah.”