Cynyddu maint testun

Golwg360



Joci yn yr ysbyty ar ôl damwain ‘ddifrifol’

Mawrth 11, 2010 14:34

Mae un o jocis gorau Cymru yn sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael damwain ddifrifol wrth hyfforddi ceffyl.

Fe gafodd Sam Thomas o’r Fenni anafiadau i’w gefn a’i wddw ar ôl cwymp yn stablau’r hyfforddwr Paul Nicholls yng Ngwlad yr Haf.

Mae amheuon bellach a fydd yn gallu cymryd rhan yn ras fawr y Cwpan Aur yn Cheltenham ymhen wythnos – ef oedd enillydd y ras ar Denman yn 2008.

Yn ôl ei gyflogwyr, mae profion Pelydr-X yn awgrymu nad yw’r joci 25 oed wedi torri asgwrn ond roedd y rhai a welodd y ddamwain yn dweud ei bod yn “ddifrifol”!.

Fe fu’n rhaid galw’r ambiwlans awyr pan ddigwyddodd y ddamwain y bore yna ac mae’r joci bellach yn ysbyty’r Royal United Hospital yn Bath, neu Gaerfaddon.

Llun: Sam Thomas (Gwifren pA)