Cynyddu maint testun

Golwg360



Trenau cyflym : ‘Cymru dan anfantais’

Mawrth 11, 2010 14:48

Mae cynllun Llywodraeth Prydain i ddatblygu gwasanaeth trenau cyflym rhwng Lloegr a’r Alban yn rhoi Cymru dan anfantais economaidd.

Dyna farn llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Adam Price, sy’n dweud fod y cynlluniau yn “anwybyddu Cymru yn llwyr”, gan nad ydyn nhw “heb hyd yn oed awgrymu” y gallai’r un fath o rwydwaith gael ei hymestyn yma.

Dywed fod hyn yn rhoi Cymru dan “anfantais economaidd” gan taw hi fydd yr unig wlad ym Mhrydain na fydd wedi cael ei chysylltu â’r “rhwydwaith Ewropeaidd”.

Mae hyn yn dangos “esgeulustra haerllug difrïol” tuag at Gymru meddai.

Daw beirniadaeth Adam Price ar ôl i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yr Arglwydd Adonis, gyhoeddi cynllun gwerth £30 biliwn ar gyfer datblygu gwasanaeth trên cyflym rhwng Lloegr a’r Alban.

“Hen newyddion”

Mae’r cyhoeddiad fod cynllun i gyflymu’r gwasanaeth trên rhwng Llundain a De Cymru drwy osod rheilffordd drydan yn “symud ymlaen” wedi eu croesawu gan Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.

Bydd y datblygiad £1 biliwn rhwng Abertawe a Llundain yn hybu’r economi a bydd o les i’r amgylchedd meddai.

Dywedodd Adam Price ei fod yn croesawu’r datblygiad, ond fod y cyhoeddiad yna yn “hen newyddion” gan fod y llywodraeth wedi cyhoeddi’r cynllun yma flwyddyn diwethaf.