Cynyddu maint testun

Golwg360



Tri Aelod ac Arglwydd yn y Llys

Mawrth 11, 2010 15:33

Mae tri Aelod Seneddol ac aelod o Dŷ’r Arglwyddi wedi bod o flaen eu gwell heddiw yn dilyn y sgandal treuliau seneddol. Mae’r pedwar wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae’r tri Aelod Llafur Elliot Morley, David Chaytor a Jim Devine wedi gwadu cyhuddiadau o ddwyn drwy dwyllo cyfrifon. Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd y Ceidwadwr, yr Arglwydd Hanningfield, o flaen y llys ynglŷn â hawlio lwfansau fel aelod o Dy’r Arglwyddi.

Yn y cyfamser, mae adroddiadau yn dod i law fod Heddlu’r Met wedi lansio ymchwiliad troseddol i achos yr Aelod Seneddol dros Leyton a Wanstead, Harry Cohen, yn dilyn honiad ei fod wedi hawlio tua £70,000 ar gyfer ail gartref. Yn ôl adroddiadau, roedd yn gosod ei brif gartref ar rent.

Fe wrthododd y Aelodau Seneddol a’r Arglwydd Hanningfield siarad â’r wasg heddiw wrth iddyn nhw fynd heibio ffotograffwyr ar eu ffordd i’r llys yn Llundain.