Cynyddu maint testun

Golwg360



Galw am ombwdsman llaeth ac archfarchnadoedd

Mawrth 11, 2010 16:06

Mae Plaid Cymru wedi galw eto am ombwdsman i gadw llygad ar y diwydiant llaeth a’r archfarchnadoedd.

Mae arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi gosod Cynnig Ben Bore yn Nhŷ’r Cyffredin i geisio cael cefnogaeth i’r syniad, er mwyn amddiffyn ffermwyr yn yr argyfwng ariannol.

Mae Elfyn Llwyd eisoes yn un o noddwyr mesur gan yr AS Llafur Albert Owen sy’n galw am ombwdsman ar gyfer archfarchnadoedd, ond mae Plaid Cymru’n pwysleisio y byddai eu cynnig nhw yn rhoi mwy o rym i’r swydd.

Mae Elfyn Llwyd yn honni fod ystadegau’n dangos fod ffermydd llaeth wedi bod yn diflannu fesul 10 yr wythnos ers pum mlynedd yng Nghymru a Lloegr.

Ar yr un pryd, mae pedair o archfarchnadoedd mawr wedi bod yn tynhau eu gafael ar y diwydiant gwerthu.

“Mae angen taclo’r broblem mewn ffordd fawr,” meddai Elfyn Llwyd.

Beirniadaeth

Fe gafodd mesur Albert Owen ail ddarlleniad llwyddiannus yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener ac mae Plaid Cymru’n honni bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn “creu melltith” dros hynny.

Yn union wedi’r bleidlais fe gyhoeddodd y Democratiaid ddatganiad i’r wasg yn beirniadu tri AS Plaid Cymru am beidio â bod yno.

Yn ôl Plaid Cymru, roedd Elfyn Llwyd, ac yntau’n un o noddwyr y mesur, wedi holi ymlaen i wneud yn siŵr fod digon yno i ennill y bleidlais heb bresenoldeb y Blaid.