Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn ardal Castell-nedd.
Fe fu Mark Nickson, 50 blwydd oed o’r Clun yng Nghastell-nedd farw ar ôl i’w feic modur Honda Firestorm lliw glas wrthdaro gyda fan Renault Kangoo gwyn ddiwedd y bore ddoe.
Fe gafodd Mark Nickson anafiadau difrifol i’w ben ac fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd Ysbyty Treforys.
Mae dyn 62 blwydd oed wedi’i arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n dal i ymchwilio.
Fe roddodd ei deulu deyrnged i’r gyrrwr lorri, a oedd yn dad i dri o blant: “Roedd Mark yn ddyn annwyl a llawn gofal oedd yn llwyddo i wneud i bawb chwerthin gyda’i egni a’i frwdfrydedd.”
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth ychwanegol gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101 neu’n ddienw trwy Taclo’r Tacle ar 0800 555111.