Mae yna ddau Ceri Cunnington. Un yn gweithio mewn swyddfa ym Mlaenau Ffestiniog, a’r llall newydd gyhoeddi albwm newydd.
Mae cyn ganwr y grŵp Anweledig bellach yn Swyddog Datblygu Cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog ac yn canmol Llywodraeth y Cynulliad am roi arian at gynllun Cymunedau’n Gyntaf.
Mae hefyd newydd gyhoeddi albwm sy’n lladd ar wleidyddion Cymru gan gyhuddo’r Cynulliad gael “gwleidyddiaeth blastig, dadlau diabetig”.
Ac er ei fod yn dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod wrth ei fodd yn ei swydd, dyw e ddim yn hoff o’r teitl.
“Dw i’n casáu’r enw ‘datblygu cymunedol’,” meddai. “Mae’r gymuned yn fa’ma yn barod. Cynnal breichiau cymuned sy’n wynebu caledi ydan ni.
“Efo adfywio cymunedol yn Blaenau, mae’r penderfyniad yn dod o’r bobol yn lle o’r top.”
Enw ei albwm newydd yw Myfyrdodau Pen Ŵy.
Rhagor o farn Ceri Cunnington yn Golwg yr wythnos yma