Cynyddu maint testun

Golwg360



‘Dim diwydiant ffilm’, meddai Dafydd Hywel

Mawrth 11, 2010 16:36

Mae’n argyfwng ar y diwydiant ffilm Cymraeg a Chymreig yn ôl stori arbennig yn Golwg.

Mae nifer o actorion a chynhyrchwyr amlwg yn dweud ei bod bellach yn llawer anoddach i wneud ffilm nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl.

“Does dim diwydiant ffilm gyda ni rhagor,” meddai’r actor Dafydd Hywel a oedd yn rhan o oes aur y ffilm Gymraeg gyda chynyrchiadau fel Rhosyn a Rhith a Milwr Bychan.

Mae’n mynnu bod gormod o wneuthurwyr ffilm yn cael eu tynnu i mewn o’r tu allan yn hytrach na bod cyfarwyddwyr lleol yn cael eu hannog.

Dr Who?

“Beth mae Dr Who yn dod i Gymru? Byddai’n well gyda fi weld ffilmiau o Gymru,” meddai. “Does gyda ni ddim digon o hyder ynon ni ein hunain,”

Ymhlith yr actorion eraill sy’n anfodlon, mae Julian Lewis Jones, sydd newydd actio mewn ffilm fawr Saesneg am Nelson Mandela a Bryn Fôn sy’n dweud bod syniadau da bellach yn cael eu gwrthod.

Mae’r Gweinidog Treftadaeth hefyd yn credu bod yna “wendid” yn y diwydiant ac fe fydd y maes yn rhan o adroddiad ar y diwydiannau creadigol gan yr Athro Ian Hargreaves o Brifysgol Caerdydd.

Fe fydd hwnnw’n cael ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesa’.

Yr erthygl yn llawn a barn yr actorion yn Golwg yr wythnos yma