Fe gafodd dyn 20 oed ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd ar ôl iddo gyfaddef trywanu ei gyn gariad ddegau o weithiau.
Cafodd Cyron Williams o Bentwyn, Caerdydd – oedd yn 19 adeg y digwyddiad – ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio Joanna Michael, 25, yn ei chartref yn Llaneirwg fis Awst diwethaf.
Fe glywodd y llys ei fod wedi ymosod ar Joanna Michael ychydig amser ar ôl dod o hyd iddi yn y gwely gyda dyn arall. Roedd yr heddlu wedi disgrifio’r olygfa fel rhywbeth allan o “ffilm arswyd”.
Dywedodd yr Ustus Wyn Williams y byddai Cyron Williams yn y carchar am 20 mlynedd cyn y gallai gael ei ystyried am barôl.
Teyrnged
Darllenwyd teyrnged i Joanna Michael ar ran ei mam, Angela Michael, yn y llys. Dywedodd na fyddai ei theulu byth yn dod dros yr hyn sydd wedi digwydd.
Darllenwyd ymddiheuriad ar ran Cyron Williams hefyd, a ddywedodd ei fod wedi dinistrio bywyd teulu Joanna Michael, ei deulu ef a’i fywyd ei hun.
Roedd y ddau wedi dechrau canlyn pan oedd ef yn 17 oed – ei berthynas fawr gynta’ – ac roedd yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl iddo geisio dod â’r berthynas i ben.
Dryswch 999
Roedd cyfreithiwr Cyron Williams wedi honni y byddai Joanna Michael yn dal i fod yn fyw oni bai am ddryswch tros alwad 999.
Cyn yr ymosodiad, roedd Joanna Michael wedi galw ar yr heddlu am help, ond fe gafodd yr alwad ei throsglwyddo i Heddlu Gwent yn hytrach na Heddlu De Cymru.
Honnodd John Rees y gallai’r heddlu fod wedi cyrraedd mewn pryd a rhwystro’r llofruddiaeth petaen nhw wedi gallu ymateb yn syth.
Mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad hwnnw.
Llun: Llys y Goron Caerdydd