Mae mam y bachgen bach James Bulger wedi cael cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Cyfiawnder er mwyn trafod achos un o’r ddau ddyn oedd wedi llofruddio’i phlentyn.
Roedd Denise Fergus wedi mynnu y dylai gael gwybod pam fod Jon Venables wedi ei gymryd yn ôl i’r ddalfa ar ôl torri amodau ei drwydded. Roedd Jack Straw wedi gwrthod.
Fe gadarnhaodd yr Adran Gyfiawnder bod yr Ysgrifennydd wedi cwrdd â mam a thad James Bulger yn Neuadd y Dref, Blackburn, yn ei etholaeth.
Roedd y ddwy ochr wedi cytuno na fydden nhw’n datgelu manylion y drafodaeth. Yn ôl cynrychiolydd Denise Fergus, roedd y sgwrs yn “gyfeillgar”.
Methu dweud
Mae Jack Straw wedi pwysleisio nad yw’n gallu dweud pam fod Jon Venables yn ôl yn y ddalfa.
Mae dau reswm am hynny:
• Fe allai effeithio ar achos llys pe bai’n cael ei gyhuddo o drosedd arall.
• Fe allai arwain at ddatgelu pwy yw Jon Venables – adeg ei ryddhau ar ôl wyth mlynedd o garchar, fe gafodd enw a hunaniaeth newydd.
Pob math o honiadau
Mae papurau newydd wedi gwneud pob math o honiadau amdano, gan gynnwys ymosod ar gydweithiwr a defnyddio pornograffi plant.
Adeg ei ryddhau ef a’i ffrind, Robert Thompson, fe ddywedodd y barnwr fod peryg iddyn nhw gael eu llofruddio eu hunain, oherwydd y teimladau cryfion ynglŷn â’r achos.
Dim ond 10 oed oedd y ddau pan gipion nhw James Bulger o ganolfan siopa ar Lannau Mersi a’i boenydio ac yna ei ladd.
Llun: Denise Fergus a Jack Straw (Gwifren PA)