Fe drodd protestiadau’n drais yn Athens heddiw yn ystod streic genedlaethol yn erbyn ymdrechion Llywodraeth Gwlad Groeg i leddfu eu trafferthion economaidd.
Fe fu cannoedd o bobol mewn mygydau a helmedi beic modur du yn ymosod ar heddlu, gan daflu bomiau petrol a cherrig.
Defnyddiwyd morthwylion i dorri ffenestri ac fe roddwyd biniau sbwriel a cherbydau ar dân.
Ymatebodd yr heddlu gan ddefnyddio nwy dagrau, gan achosi i nifer o bobol redeg o gaffis cyfagos.
Yn ôl yr heddlu, mae 16 o bobol wedi eu harestio a dau blismon wedi’u hanafu.
Ail streic
Mae rhan helaeth o’r wlad wedi dod i stop wrth i bobol ddechrau protest 24 awr yn erbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus – sy’n cynnwys lleihau cyflogau – a chynnydd mewn trethi. Dyma’r ail streic o fewn wythnos.
Honnodd trefnwyr y protestiadau bod 60,000 o bobol wedi cymryd rhan heddiw, ond mae’r heddlu yn dweud mai 20,000 oedd yno, gan gynnwys protestwyr heddychlon.
Mae’r toriadau yn effeithio ar yr heddlu, ac fe fu tua 200 o blismyn yn protestio mewn sgwâr yng nghanol Athens ychydig cyn i’r gorymdeithio ddechrau.
Yr unig ffordd
Mae’r Llywodraeth yn honni mai toriadau llym yw’r unig ffordd i ddelio â diffyg ariannol anferth y wlad.
Ond mae’r undebau’n dweud bod Groegwyr cyffredin yn gorfod talu cyfran annheg am gamreolaeth ariannol y wlad.