Mae’r dyn a roddodd ei enw i Fformiwla Barnett wedi galw am ei newid.
Fe fyddai hynny’n golygu cannoedd o filiynau o bunnoedd yn rhagor o arian cyhoeddus i Gymru, ond biliynau’n llai i’r Alban.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw’n cytuno “mewn egwyddor” gyda’r Arglwydd Barnett.
Mae’r cyn weinidog Llafur yn dweud bod angen ei diwygio er mwyn dyfodol gwledydd Prydain.
Y Fformiwla sy’n gyfrifol am ddosbarthu arian o Lundain i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac fe gafodd ei chreu ar ddiwedd yr 1970au.
Bryd hynny, doedd Joel Barnett, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ddim yn disgwyl iddi barhau am dair blynedd heb sôn am ddeg ar hugain.
Rhoi’r pwyslais ar anghenion
Heddiw, fe ddywedodd mewn dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi bod angen ei newid i ganolbwyntio ar anghenion gwirioneddol.
Roedd yn cefnogi adroddiad gan bwyllgor o arglwyddi yn argymell newid – fe ddylai’r Llywodraeth nesa’ wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd, meddai.
Roedd arglwyddi eraill yn cytuno gyda’i ddadansoddiad y byddai gadael y fformiwla heb ei newid yn arwain at chwalu’r Deyrnas Unedig.
Mae rhanbarthau yn Lloegr wedi sylweddoli eu bod nhw’n derbyn llawer llai o arian y pen na’r Alban – yn ôl y cyn Ganghellor Nigel Lawson, does dim cyfiawnhad tros hynny.
Cefndir a dadansoddiad
Y broblem i Lafur – ac i’r Ceidwadwyr yn y gorffennol – yw bod seddi’r Alban yn bwysig iawn iddyn nhw.
Mae rhai hefyd yn gweld yr arian ychwanegol sy’n dod trwy’r Fformiwla yn rhyw fath o iawndal am yr holl olew sy’n dod trwy’r Alban o Fôr y Gogledd.
Bellach, heb fawr ddim seddi, yn yr Alban, mae’r Ceidwadwyr o blaid diwygio – ar ymweliadau â Chymru, mae’r arweinydd, David Cameron, a’r llefarydd economaidd, George Osborne, wedi awgrymu hynny.
Yma, mae Comisiwn Holtham hefyd wedi cefnogi newid – a defnyddio ffigurau sydd ar gael eisoes i asesu nawdd, fe fyddai Cymru’n derbyn £2 yn ychwanegol am bob £100 sy’n cael eu gwario yn Lloegr.
Llun: Porth y Trysorlys yn Llundain (James F – Trwydded GNU)