Mae Heddlu Gwent yn gofyn am help i ddal ymosodwr dideimlad a gymerodd fantais ar ddyn anabl.
Roedd y dyn 41 oed sydd mewn cadair olwyn yn ymweld â Chasnewydd o’i gartref yng ngorllewin Cymru adeg yr ymosodiad yn Stryd y Bont yn y ddinas.
Yn ôl yr heddlu, roedd y lleidr wedi cynnig ei helpu ac, er i’r dyn wrthod, fe gafodd ei wthio i faes parcio cyfagos.
Yno, fe gipiodd y lleidr fag oddi arno – roedd yn cynnwys arian a chardiau banc a phethau personol.
Pan alwodd y dyn am gymorth, fe redodd dau o bobol ar ôl y lleidr, heb allu ei ddal.
Disgrifiadau
Mae’r heddlu wedi rhoi disgrifiad o’r bag a’r lleidr ac yn gofyn am wybodaeth am y naill a’r llall.
• Mae gan y bag defnydd du bedair poced gyda zipiau a strap hir.
• Dyn gwyn yw’r lleidr, tua 5 troedfedd 7 modfedd, yng nghanol ei 20au gyda siaced werdd a hwd.
Chafodd y dyn anabl ddim o’i anafu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.